Dunn & Ellis Cyf

Cyfeiriadur Staff (Porthmadog)

Cyfrifwyr Cymwysedig

Clive T. Brown B.Sc(Econ), FCA

ctb@dunnandellis.co.uk

Yn Gymrawd i Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig ers 1975, mae Clive yn arbenigo ar faterion cyfrifyddu ac archwilio cwmnïau cyfyngedig – boed yn gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau neu warant, neu'n gwmni sy'n adrodd ar ran Elusennau. Clive sydd hefyd yn gyfrifol am ein cleientiaid ym maes iechyd.

Gyda Deloitte ym Manceinion y cafodd Clive ei hyfforddiant, a chafodd brofiad o'r meysydd bancio, cyllid ac yswiriant gyda Lloyds TSB a D.C Gardner & Co Ltd.

Paul C. Jones B.Sc, FCCA

pauljones@dunnandellis.co.uk

Graddiodd Paul o Brifysgol Cymru, Bangor yn 1999, gyda gradd anrhydedd mewn Mathemateg.

Dychwelydd Paul i'w gynefin yng Nghriccieth yn 2001, ar ôl bod yn gweithio fel cyfrifydd i gwmni rheoli dyledion ym Manceinion.

Bu Paul yn gweithio i gwpl o bractisau Cyfrifwyr Siartredig lleol, lle'r oedd yn gyfrifol am yr adran Treth Bersonol ar gyfer ei gyflogwr blaenorol, cyn ymuno â Dunn & Ellis Cyf ym mis Ebrill 2006.

​Ffion Ll. Morris B.Sc, FCCA, ATT

ffion@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Ffion â Dunn & Ellis Cyf yn 2015, ar ôl bod yn gweithio mewn diwydiant ac yn y maes bancio.

Graddiodd Ffion o Brifysgol Caerdydd yn 2005 gyda gradd mewn Cyfrifeg, a daeth yn gymwys i fod yn aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) yn 2012, cyn mynd ymlaen i ymuno â'r Gymdeithas yn 2015. Daeth Ffion hefyd yn aelod o Gymdeithas y Technegwyr Treth (ATT) yn 2018. Mae hi'n aelod cymrawd o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig ers mis Mai 2020.

Alaw Ff. Hughes B.Sc(Hons), ATT, CTA, ACCA

alaw@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Alaw â Dunn & Ellis Cyf yn 2016, ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg; ers hynny mae wedi ennill cymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Treth (ATT), a daeth yn aelod llawn o’r Sefydliad Trethu Siartredig (CIOT) yn 2019. Mae Alaw yn aelod llawn o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ers 2021.

Angharad M. Morgan FCA, MAAT

angharad@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Angharad â Dunn & Ellis Cyf yn 2020, ar ôl bod yn gweithio i gwpl o bractisau cyfrifeg eraill yn yr ardal.

Derbyniodd Angharad gymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig (ACA) yn 2013, ac mae hi'n gymrawd o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) ers Mai 2023. Mae Angharad hefyd yn aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT).

Tomos O. Ll. Williams ACCA, MAAT

tomoswilliams@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Tomos â Dunn & Ellis Cyf yn 2016. Derbyniodd gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) yn 2019, cyn dod yn aelod o'r Gymdeithas yn 2022. Cwblhaodd Tomos ei gymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ym mis Hydref 2023, a daeth yn aelod ym mis Medi 2024.

Glesni Ff. Jones B.Sc(Hons), ATT, ACCA

glesni@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Glesni â Dunn & Ellis Cyf yn 2019, ar ôl graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd ail ddosbarth uwch mewn Cyfrifeg a Chyllid. Mae gan Glesni gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Treth (ATT), ac fe ddaeth yn aelod llawn o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ym mis Ionawr 2025.

Y Dderbynfa

Delyth Williams

delyth@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Delyth â Dunn & Ellis Cyf yn 2003, ac mae hi'n gweithio yn ein derbynfa.

Gweinyddu'r Swyddfa a Gwasanaethau Talu wrth Ennill (PAYE)

Einir Ll. Smith FMAAT, AATQB

einir@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Einir â'r practis yn 2001 ar ôl cwblhau ei hastudiaethau Lefel A, ac mae'n Aelod Cymrawd o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Einir yw Rheolwr y Practis, ac mae'n delio â'r holl faterion swyddfa mewnol.

Michelle Davies

michelle@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Michelle â Dunn & Ellis Cyf yn 2015 fel Rheolwr y Gyflogres.

Bethan Carter

bethan@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Bethan â Dunn & Ellis Cyf yn 2018; mae hi'n gweithio yn adran y Gyflogres. Bethan sydd hefyd yn delio â holl faterion Ysgrifenyddol Cwmnїau.

Olwen Ll. Jones

olwen@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Olwen â Dunn & Ellis Cyf yn 1999, ar ôl cael profiad gyda chwmni cyfrifeg arall. Mae gan Olwen gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT), ac mae'n gweithio ym maes paratoi cyfrifon ers blynyddoedd lawer.

Cyfrifyddu, Treth, Cadw Cyfrifon a Threth ar Werth (VAT)

R. Eifion Jones

eifion@dunnandellis.co.uk

Eifion yw'r aelod o'r personél cyfrifyddu sydd wedi bod gyda ni hiraf, gan iddo ymuno â'r practis yn 1981.

Christopher Morrow

chris.morrow@dunnandellis.co.uk

Yn dynn ar sodlau Eifion y mae Chris, a ymunodd â'r practis yn 1990, ac mae yntau hefyd yn aelod o'r personél cyfrifyddu. Mae Chris hefyd yn paratoi ffurflenni Treth ar Werth (VAT) nifer o'n cleientiaid.

Karen W. Lewis

kwl@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Karen â'r practis yn 1994 fel Cynorthwyydd Cyfrifon, yn syth ar ôl cwblhau ei chwrs Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Menai.

Iwan Evans

iwan@dunnandellis.co.uk

Mae Iwan gyda ni ers 1998, ar ôl cael profiad gyda chwmni cyfrifeg arall yn yr ardal.

Owain S. Roberts

owain@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Owain â'n practis yn 2019, ar ôl cael profiad gyda ni drwy amryw o gyfnodau ar leoliad gwaith. Mae Owain yn gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.

Sian E. Jones B.Sc(Hons)

sian.jones@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Sian â Dunn & Ellis Cyf yn 2020, ar ôl graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid. Cafodd Sian brofiad o weithio mewn practis cyfrifeg arall yn yr ardal cyn ymuno â ni. Mae Sian yn gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd, gan ddilyn hynny â chymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).

Jessica Williams B.Sc,

jessica@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Jessica â Dunn & Ellis Cyf ym mis Hydref 2021, ar ôl graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid. Mae Jessica yn gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Treth (ATT) ar hyn o bryd.

Morgan Roberts B.Sc, M.Sc

morgan@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Morgan â Dunn & Ellis Cyf ym mis Mawrth 2022, ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid, cyn mynd ymlaen i Brifysgol De Cymru i wneud gradd Meistr mewn Cyfrifeg Broffesiynol. Cwblhaodd Morgan ei arholiadau Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ym mis Rhagfyr 2024 ac mae wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Treth (ATT) ar hyn o bryd..

Erin F. Roberts

erin@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Erin â Dunn & Ellis Cyf ym mis Tachwedd 2022 fel Cynorthwyydd Cyfrifon. Mae Erin wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.

Cadi Bigwood

cadi@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Cadi â Dunn & Ellis Cyf ym mis Chwefror 2023, i fod yn aelod o'n hadran Treth ar Werth (VAT) a Chadw Cyfrifon. Mae Cadi wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.

Llinos Hamer-Jones

llinos@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Llinos â Dunn & Ellis Cyf ym mis Chwefror 2023, i fod yn aelod o'n hadran Treth ar Werth (VAT) a Chadw Cyfrifon.

Emma John

emma@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Emma â Dunn & Ellis Cyf ym mis Hydref 2023, i fod yn aelod o'n hadran Treth ar Werth (VAT) a Chadw Cyfrifon.

Siôr Ll. Jones

siorjones@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Siôr â Dunn & Ellis Cyf ym mis Rhagfyr 2023 ar ôl cwblhau ei arholiadau TGAU. Mae Siôr wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.

Caio Roberts

caio@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Caio â Dunn & Ellis Cyf ym mis Chwefror 2024. Mae Caio wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.

Samuel C. O. Griffiths

sam@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Sam â Dunn & Ellis Cyf ym mis Medi 2024. Mae Sam wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.