Dunn & Ellis Cyf

Swyddi Gwag

Mae rhestr o'n swyddi gwag wedi'u nodi isod. Gallwch wneud cais am swydd drwy yrru CV a llythyr cais at sylw Mr Iorwerth Williams (iorwerth@dunnandellis.co.uk). Bydd cyflog yn ddibynnol ar brofiad a gan ystyried unrhyw gymhwyster perthnasol sydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus.

CYFRIFYDD DAN HYFFORDDIANT - PORTHMADOG

Cyfle i fod yn rhan o dîm brwdfrydig Dunn & Ellis Cyf. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn busnes, yn drefnus, yn frwdfrydig ac yn barod i ddysgu. Rydym yn swyddfa hyfforddi gyda staff yn astudio tuag at eu tystysgrif ACA, ACCA, CTA, AAT ac ATT.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

• O dan oruchwyliaeth, paratoi cyfrifon ar gyfer gwahanol fusnesau, gan gynnwys:

  • unig fasnachwyr,
  • partneriaethau a
  • chwmnïau cyfyngedig

• Hyfforddiant i ddefnyddio meddalwedd a systemau cyfrifiadurol e.e. Iris, Quickbooks, Xero.

• Sicrhau bod terfynau amser e.e. Tŷ’r Cwmnϊau, CThEF ayyb yn cael eu cyrraedd yn brydlon.

• O dan oruchwyliaeth, cynorthwyo i baratoi:

  • ffurflenni treth incwm,
  • ffurflenni treth gorfforaeth, a
  • ffurflenni TAW

• Unrhyw waith clerigol arall sydd yn ofynnol gan oruchwylwyr a chyfarwyddwyr y swyddfa.

• Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.


Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy yrru CV a llythyr cais at sylw Mr Iorwerth Williams (iorwerth@dunnandellis.co.uk).


LLYFRIFWR - PORTHMADOG

Cyfle i fod yn rhan o dîm brwdfrydig Dunn & Ellis Cyf. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â chefndir o ddefnyddio meddalwedd cadw llyfrau gan gynnwys Sage, Quickbooks, Xero etc.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:

  • Paratoi ffurflenni TAW yn chwarterol neu'n fisol dros ystod o fusnesau ac endidau drwy ddefnyddio meddalweddau cadw llyfrau o bob math, h.y. Sage, Quickbooks, Xero, etc.;
  • Rhoi cymorth i gleientiad sy'n paratoi eu ffurflenni TAW eu hunain, gwirio ffigyrau TAW y cleientiaid, paratoi, a chyflwyno ffurflenni TAW gan ddefnyddio meddalwedd sy'n cydymffurfio a rheolau "MTD" ar ran cleientiaid;
  • Cysylltu â chleientiaid i'w hatgoffa i ddod a'u cofnodion ariannol i fewn mewn da bryd er mwyn paratoi ei ffurflen TAW. Sicrhau bo cleientiaid yn ymwybodol o derfynau amser ar gyfer cyflwyno ffurflenni TAW;
  • Sicrhau bo'r ffurflen TAW yn cael ei chyflwyno o fewn terfynau amser, a bo ffurflenni yn cael eu cwblhau o fewn amser rhesymol ar ôl derbyn y cofnodion. Bydd angen sicrhau bo'r ffigyrau TAW yn fanwl gywir bob amser;
  • Cysylltu â chleientiaid i gytuno â'r ffigyrau ar y ffurflen TAW a'u cynghori ar sut i dalu unrhyw swm sy'n ddyledus i swyddfa CThEF;
  • Sicrhau bo tasgau cyfrifon rheoli yn cael eu cwblhau yn chwarterol, i gynnwys (ond heb ei gyfyngu) y canlynol:
    Cysoniadau banc
    Rheoli credydwyr
    Rheoli dyledwyr
  • Cydgysylltu yn effeithiol â staff yr adran gyfrifon, gan sicrhau bo cofnodion cleientiaid yn cael eu trosglwyddo yn brydlon er mwyn paratoi cyfrifon ariannol diwedd blwyddyn, a chodi unrhyw faterion sy'n codi yn ôl yr angen;
  • Unrhyw waith clerigol arall ar ofyn rheolwyr a chyfarwyddwyr;
  • Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Nodwn mai er yn y swyddfa ym Morthmadog y bydd y swydd hon yn cael ei leoli, ein disgwyliad fydd i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio at ein cwsmeriaid yn aml i gwrdd â nhw. Bydd costau teithio yn cael eu had-dalu yn unol â chanllawiau CThEF.

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy yrru CV a llythyr cais at sylw Mr Iorwerth Williams (iorwerth@dunnandellis.co.uk).