Dunn & Ellis Cyf

Hanes y Cwmni

Sefydlwyd Dunn & Ellis Cyf yng nghanol y 1950au, ac Adeilad St David's, Stryd Lombard yw cartref ein swyddfa bellach – sef hen swyddfa leol Cyllid y Wlad. Mae'r cwmni hefyd wedi ehangu i Ynys Môn, ac mae gennym swyddfa yn Rhif 2 Stryd Fawr, Porthaethwy ers 2017.

Rydym yn gwmni annibynnol, sefydledig o Gyfrifwyr Siartredig ac Ymarferwyr Treth Siartredig, ac rydym yn delio â chleientiaid ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.

Yn 2016, cafodd y cwmni ei gorffori gyda dau gyfarwyddwr – Sion E. Roberts ac Iorwerth Ll. Williams – ynghyd â thîm cryf a phrofiadol iawn o staff cymwysedig. Ers hynny mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth, ac mae bellach yn cynnwys tri chyfarwyddwr arall a dros 30 o staff. Ethos ein gwaith yw cynnig gwasanaeth effeithiol a phersonol i'n holl gwsmeriaid.

Mae'r practis wedi mynd ati bob amser i ddarparu gwasanaeth costeffeithiol sy'n cynnig gwerth am arian, ac rydym yn parhau i adolygu a diweddaru ein harbenigedd. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyngor prydlon ynghylch unrhyw newidiadau diweddar yn neddfau treth y Deyrnas Unedig, ac i ddefnyddio'r dechnoleg wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf meddalwedd cyfrifeg a threth – fel y feddalwedd sydd bellach yn angenrheidiol ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol at ddibenion Treth Ar Werth (MTDforVAT).

Rydym yn falch o fod yn bractis cyfeillgar ac agos-atoch chi, sy'n cynnig gwasanaeth a chyngor o'r safon uchaf i'n cleientiaid.

I Stock 645088854