Dunn & Ellis Cyf

Gyrfa gyda Dunn & Ellis Cyf

Rydym yn gwmni sy'n ehangu drwy'r amser, ac felly, rydym wastad yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â'n tîm o staff egnїol ac ymroddgar. Mae cyfle gwych am yrfa ddisglair yma gyda ni, wrth i'r cwmni barhau i dyfu.

Ein cynnig:

  • Cyflog cystadleuol, gan ystyried unrhyw gymwysterau sydd gennych a/neu brofiad
  • Trefniadau gweithio hyblyg, naill ai yn ein swyddfa ym Mhorthmadog neu yn ein swydda ym Mhorthaethwy
  • Contract parhaol, ar ôl cwblhau cyfnod prawf, i weithio hyd at 36.25 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener (gofynnir am hyblygrwydd i fodloni anghenion cleientiaid)
  • Hyfforddiant ar wahanol becynnau meddalwedd - hynny yw, IRIS, Sage, Quickbooks, Xero, Brightpay
  • Cymorth i ddod yn aelod llawn o ACCA, ATT, CIOT, AAT (os dymunir)
  • Cyfraniadau pensiwn hael gan y cyflogwr drwy Awto-gofrestru
  • Yswiriant meddygol preifat
  • Bonysau sy'n seiliedig ar berfformiad
  • 23 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc (gwyliau ychwanegol rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd)
  • Tripiau staff

I ddatgan diddordeb, mae croeso i chi anfon llythyr eglurhaol atom ynghyd â CV cyfredol i mail@dunnandellis.co.uk