Dunn & Ellis Cyf

Cyfarwyddwyr y Cwmni

Mae gan y cwmni bedwar cyfarwyddwr ar hyn o bryd, ynghyd â thîm cryf a phrofiadol iawn o staff cymwysedig.

Gallwch weld gwybodaeth isod am y Cyfarwyddwyr, ac mae gwybodaeth gefndirol a manylion cyswllt aelodau eraill o staff i'w gweld yn y Cyfeiriadur Staff.

Y Rheolwyr Gyfarwyddwyr

Sion E Roberts ATT, CTA

sion@dunnandellis.co.uk

Ar ôl cychwyn gweithio i Dunn & Ellis Cyf yn 1988, cymhwysodd Sion fel Ymarferydd Treth Siartredig yn 1999. Ymunodd â'r bartneriaeth yn 2001, cyn dod yn gyfarwyddwr wrth gorffori'r cwmni ym mis Mehefin 2016. Mae Sion yn rhannu ei amser rhwng y ddwy swyddfa, gan deithio i Borthaethwy ar ddydd Mawrth a dydd Iau.

Mae Sion yn arbenigo ar faterion treth unigolion a chwmnïau, ac mae ganddo ddiddordeb neilltuol mewn materion treth sy'n berthnasol i'r economi wledig.

Ym mis Tachwedd 2015, derbyniodd Sion Dystysgrif SWAT UK ym maes Profiant a Gweinyddu Ystadau yn dilyn Cwrs ac Asesiad.

Iorwerth Williams B.Sc(Econ), FCA

iorwerth@dunnandellis.co.uk

Dechreuodd Iorwerth weithio i Dunn & Ellis Cyf ym mis Mawrth 2007, ar ôl cymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig gyda Deloitte yng Nghaerdydd a Llundain.

Graddiodd Iorwerth o Brifysgol Cymru Aberystwyth ar ôl astudio Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Busnes.

Daeth Iorwerth yn bartner yn y practis ym mis Chwefror 2010, ac yn gyfarwyddwr wrth gorffori'r cwmni ym mis Mehefin 2016. Mae Iorwerth yn rhannu ei amser rhwng y ddwy swyddfa, gan deithio i Borthaethwy ar ddydd Llun.

Y Cyfarwyddwyr

Nia Fôn Lane FCCA

nfl@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Nia â'r practis yn 1996, ar ôl bod yn gweithio i Fanc NatWest, wedi iddi gwblhau ei hastudiaethau Lefel A.

Mae ganddi gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT), a daeth yn gymwys i fod yn aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) yn 2010, cyn mynd ymlaen i fod yn Aelod Cymrawd o'r Gymdeithas ym mis Ebrill 2020.

Ym mis Mehefin 2015, derbyniodd Nia Dystysgrif SWAT UK ym maes Profiant a Gweinyddu Ystadau yn dilyn Cwrs ac Asesiad.

Daeth Nia yn Gyfarwyddwr ar y cwmni ym mis Hydref 2021, ac mae'n gweithio yn ein swyddfa ym Mhorthmadog.

Lois G. Morgan B.Sc (Hons), ACA

lois@dunnandellis.co.uk

Ymunodd Lois â Dunn & Ellis Cyf yn 2010, ar ôl graddio o Brifysgol Caerhirfryn gyda gradd mewn Cyfrifeg, Archwilio a Chyllid o dan nawdd Ernst & Young.

Derbyniodd Lois gymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig (ACA) yn 2014, ac mae'n aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). Ym mis Mehefin 2015, derbyniodd Lois Dystysgrif SWAT UK ym maes Profiant a Gweinyddu Ystadau yn dilyn Cwrs ac Asesiad.

Mae Lois yn aelod o'n hadran archwilio.

Daeth Lois yn Gyfarwyddwr ar y cwmni ym mis Hydref 2021, ac mae'n gweithio yn ein swyddfa ym Mhorthaethwy.